Sut i wneud cais

Ar hyn o bryd gallwch wneud cais i Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro mewn dwy ffordd.

Os hoffech gael ffurflen gais bapur, anfonwch neges e-bost i housing@pembrokeshire.gov.uk yn cynnwys eich enw llawn a'ch cyfeiriad post llawn. Yna anfonir ffurflen gais atoch i'w chwblhau.

Os byddai'n well gennych wneud cais ar-lein, gallwch gwblhau cais yn electronig drwy glicio'r botwm 'Cofrestru' yng nghornel dde uchaf gwefan Cartrefi Dewisedig.

Cysylltir â phob ymgeisydd presennol ar gyfer Cartrefi Dewisedig i lenwi ffurflen cyn-ymgeisio yn ystod mis Gorffennaf 2026.

Mae angen y ffurflen hon i wirio a ydych chi'n gymwys i aros ar y gofrestr Cartrefi Dewisedig o dan y polisi dyrannu newydd.

Beth fydd angen i chi ei wneud
• Cwblhewch y ffurflen cyn-ymgeisio pan fyddwch chi'n ei chael
• Lanlwythwch y dystiolaeth y gofynnwyd amdani ar ôl cwblhau'r ffurflen cyn-ymgeisio

Os na fyddwch yn lanlwytho'r dystiolaeth ofynnol:
• Ni fydd eich ffurflen cyn-ymgeisio yn cael ei hasesu
• Ni fyddwch yn gallu symud i'r cam nesaf
• Bydd eich cais Cartrefi Dewisedig cyfredol yn cael ei gau pan fydd y polisi newydd ar waith

Beth sy'n digwydd nesaf?
Unwaith i chi lanlwytho eich tystiolaeth:
• Bydd swyddog tai Cartrefi Dewisedig yn gwirio ac yn asesu eich cymhwysedd
• Os cadarnheir eich bod yn gymwys, cysylltir â chi i lenwi ffurflen gais newydd ar gyfer Cartrefi Dewisedig.

Ar ôl cyflwyno eich cais newydd:
• Ni fyddwn yn cysylltu â chi eto nes bod y polisi newydd ar waith - peidiwch â chysylltu â ni ynglŷn â'ch cais newydd.
• Yna byddwch yn cael pecyn croeso newydd pan fydd y polisi ar waith.

Angen cymorth?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen help arnoch i gwblhau cais ar-lein, cysylltwch â'r Tîm Cymorth Tai:
Ffôn: 01437 764551
Anfonwch neges e-bost i: housing@pembrokeshire.gov.uk

 

ID: 40, Adolygwyd 19/6/2026

E-bost wythnosol ynghylch eiddo i’w rhentu

© 2018 Cyngor Sir Penfro All Rights Reserved