Polisi

Mae'r polisi clustnodi yn rhoi disgrifiad manwl o sut mae eiddo'n cael eu clustnodi gan Bartneriaid Tai CartrefiDewisedig@SirBenfro (Cyngor Sir Penfro, Chymdeithas Tai Wales & West Cyfyngedig ac ateb). Mae'r ddogfen hon yn dweud yn union:

  • Sut mae CartrefiDewisedig@SirBenfro yn gweithredu
  • Sut i wneud cais
  • Pwy sy'n gymwys i wneud cais
  • Sut y rhoddir trefn blaenoriaeth ar geisiadau'r cwsmeriaid ac am faint o ystafelloedd gwely y gall cwsmer wneud cais
  • Sut mae eiddo'n cael eu hysbysebu a'u clustnodi

Fe newidiodd polisi CartrefiDewisedig@SirBenfro ar 1 Mehefin 2015

Bydd unrhyw gwsmeriaid a ymgofrestrodd ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hasesu o dan y polisi newydd. O ran y cwsmeriaid hynny a ymgofrestrodd â CartrefiDewisedig@SirBenfro cyn y dyddiad hwn, byddant hwy wedi derbyn llythyr sy'n dweud wrthynt sut y bydd y newidiadau yn y polisi yn effeithio ar eu cais.

pdf icon polisi  CartrefiDewisedig@SirBenfro

 

ID: 27, Adolygwyd 29/9/2023

E-bost wythnosol ynghylch eiddo i’w rhentu

© 2018 Cyngor Sir Penfro All Rights Reserved