Trosglwyddiadau

Beth sy'n digwydd os wyf i am symud neu drosglwyddo i gartref arall â Chyngor Sir Penfro neu i eiddo arall â chymdeithas tai?

Os ydych chi'n dymuno symud o fewn Sir Benfro yna gallwch chi wneud cais am drosglwyddo trwy'r Cyngor. Fel arfer ni roddir unrhyw flaenoriaeth i'r bobl hynny sy'n dymuno trosglwyddo, onibai y gallant brofi eu bod yn gorfod symud oherwydd angen lles neu fudd-dal.

Bydd gofyn ichi lanw ffurflen gais am dai:

  • pdf icon Lawrlwytho Ffurflen Gais
  • Ewch i mo'yn un o'ch swyddfa tai leol
  • Trwy ffonio'r Ganolfan Gyswllt ar 01437 764551
  • Anfonwch e-bost a gofyn am ffurflen gais, gan adael eich enw llawn a'ch cyfeiriad - CBL@pembrokeshire.gov.uk

Allaf i symud i eiddo arall?

Gall tenantiaid sicr symud cyn belled â'ch bod yn bodloni'r meini prawf hyn:

  • Rydych chi wedi byw yn eich cartref presennol ers dros 12 mis ac felly rydych chi'n denant sicr
  • Mae eich cartref presennol mewn cyflwr boddhaol
  • Nid oes gyda chi ôl-ddyledion rhent

Os ydych chi'n bodoli'r meini prawf uchod, rhaid i chi gofrestru gyda Cartrefi Dewisedig trwy lanw ffurflen gais am dai (gweler uchod).

 

Manylion Cysylltu:

Cyngor Sir Penfro
Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid
Cyngor Sir Penfro
Adain y Gogledd
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP

Ffôn: 01437 764551
E-bost: CBL@pembrokeshire.gov.uk

 

ateb
Meyler House
St Thomas Green
Haverfordwest
SA61 1QP

E-bost: hello@atebgroup.co.uk
Ffôn: 01437 763688


Tai Wales & West
Swyddfa Gorllewin Cymru
Cwrt y Llan
Church Lane
Castell Newydd Emlyn
SA38 9AB

E-bost:contactus@wwha.co.uk
Ffôn: 0800 052 2526 or 029 2041 5300

ID: 11, Adolygwyd 5/9/2018

E-bost wythnosol ynghylch eiddo i’w rhentu

© 2018 Cyngor Sir Penfro All Rights Reserved