Beth sy'n digwydd os bydd fy amgylchiadau'n newid?
Os bydd eich amgylchiadau'n newid rhaid i chi ddweud wrth CartrefiDewisedig@Sir Benfro trwy gysylltu ag unrhyw bartner tai.
Beth sy'n digwydd unwaith y byddaf wedi llenwi'r ffurflen gais?
Yn y rhan fwyaf o ardaloedd, mae llawer o bobl yn chwilio am gartref, felly mae gennym reolau teg sy'n penderfynu pwy sy'n cael blaenoriaeth. Unwaith y derbyniwyd cais, bydd eich anghenion tai'n cael eu hasesu a byddwch yn cael eich gosod yn un o'r grwpiau neu 'haenau' canlynol:
Caiff yr asesiad ei wneud ar sail y wybodaeth a roddwch ar eich ffurflen gais yn unig. O fewn pob 'haen' byddwch yn cael eich gosod yn nhrefn dyddiad derbyn eich cais.
Haen efydd - cwsmeriaid sydd eisiau symud oherwydd dewis personol, yn hytrach nag oherwydd bod ganddynt angen ariannol, lles neu feddygol dybryd.
Haen arian - cwsmeriaid sydd â rhywfaint o angen symud ond sy'n gallu dod i ben yn gyffredinol yn eu cartrefi presennol, fel cwsmeriaid mewn llety preifat ar rent neu gydag anhwylder meddygol fyddai'n cael ei leddfu trwy symud.
Haen aur - cwsmeriaid y mae symud yn hanfodol iddynt, fel cwsmeriaid digartref neu'r rhai sydd heb amwynderau sylfaenol.
Statws blaenoriaeth - bydd rhai cwsmeriaid yn cael statws blaenoriaeth. Bydd hyn yn rhoi blaenoriaeth iddynt dros gwsmeriaid haen efydd, aur ac arian. Bydd statws blaenoriaeth yn cael ei roi yn unig i gwsmeriaid gyda chysylltiad lleol â Sir Benfro neu lle nodwyd dyletswydd digartrefedd statudol. Mae terfyn amser yn berthnasol.
Bydd holl gwsmeriaid sy'n gwneud cais, ac sy'n cyrraedd y meini prawf, am eiddo arbennig yn cael eu 'paru' yn ôl eu hanghenion tai. Bydd deiliaid statws blaenoriaeth yn cael eu paru gyntaf, haen aur yn ail, haen arian wedyn a haen efydd yn olaf. Os bydd mwy nag un cartref yn cyfateb i unrhyw grŵp neu 'haen', yna'r dyddiad y cofrestrwyd y cais fydd yn penderfynu pwy sy'n cael blaenoriaeth.
A fydd fy statws bandio yn newid os oes gen i gyflwr meddygol?
a. Ni fydd symud I lety gwahanol yn gwella nac yn lliniaru'r cyflwr;
b. Mae'r cwsmeiriad eisoes yn byw mewn llety addas; neu
c. Mae'n rhesymol ac ymarferol gwella'r llety presennol o fewn amser rhesymol fel ei fod yn dod yn addas ar gyfer y cwsmeriaid neu rywun ar yr aelwyd.
Beth mae'n ei olygu pan fydd eiddo'n cael ei hysbysebu'n 'ffafrio' cwsmeriaid gyda chysylltiad lleol?
Mae nifer o eiddo ar gael, bydd rhai o'r cartrefi'n cael eu hysbysebu gan ffafrio'r bobl hynny gydag angen i fyw mewn cymuned arbennig ble byddai methiant yn achosi caledi. Nid yw hyn yn golygu na all cwsmeriaid heb gysylltiad wneud cais ond, wrth lunio rhestr fer, byddwn yn edrych gyntaf ar gwsmeriaid sydd â chysylltiad cryf â'r ardal arbennig honno. Bydd hyn yn cynorthwyo cynnal ein cymunedau. Byddwn yn dal i edrych ar addasrwydd cyn gwneud cynnig ac ni fyddwn yn gwneud cynnig os nad yw'r eiddo'n cyfateb i anghenion y ceisydd, h.y. ni fyddem yn cynnig tŷ sy'n ddigon mawr i deulu i rywun sengl hyd yn oed os mai dyma'r unig gais a wnaed gan rywun gyda chysylltiad lleol.
Beth sy'n digwydd os nad wy'n cytuno â'r haen neu ddyddiad cofrestru?
Pa gartrefi gaf i ddewis?
Holl eiddo sy'n cael ei gynnwys yn CartrefiDewisedig@Sir Benfro
Bydd maint a math y cartref y gallwch wneud cais amdano'n dibynnu ar faint o bobl sydd yn eich cartref a'r math o gartref sydd arnoch chi a'ch teulu ei angen.
Nesaf at bob eiddo fe welwch wybodaeth am y lleoliad, math, maint, rhent a pha fath o unigolyn neu deulu fyddai'n addas i'r cartref.
Bydd rhai cartrefi'n cael ei hysbysebu'n benodol ar gyfer pobl arbennig, e.e. llety a addaswyd ar gyfer pobl anabl. Yng nghefn gwlad, efallai y bydd pobl gyda chysylltiad lleol cryf yn cael blaenoriaeth ar rywfaint o eiddo.
Beth sy'n digwydd os nad wyf eisiau unrhyw un o'r cartrefi sy'n cael eu hysbysebu?
Peidiwch â phryderu - edrychwch eto'r wythnos nesaf! Ni chewch eich cosbi am beidio ag ymateb (os nad oes gennych statws blaenoriaeth).
Am faint o eiddo allaf i wneud cais bob wythnos?
Gallwch wneud cais am hyd at bum eiddo bob wythnos a gall unrhyw un o'r cartrefi y gwnaethoch gais amdanynt, gael eu cynnig ichi.
Beth sy'n digwydd os byddaf yn llwyddo gyda'm cais ac yn cael cynnig?
Bydd manylion y cais gyda'r flaenoriaeth uchaf yn cael eu cadarnhau i sicrhau bod y wybodaeth a roddwyd ar y ffurflen gais yn gywir. Yr adeg hon byddwn hefyd yn cadarnhau pethau fel ôl-ddyledion rhent.
Os yw'r manylion yn gywir a'ch cais yn llwyddiannus, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol, yn rhoi cynnig amodol i chi a threfnu i chi weld yr eiddo.
Os ydych yn dal â diddordeb yn yr eiddo byddwn yn gwneud cynnig ffurfiol ac yn dweud pryd y gallwch lofnodi'r cytundeb tenantiaeth a symud i mewn.
Fyddwch chi'n cysylltu â mi os gwnaf gais am eiddo a heb fod yn llwyddiannus?
Yn anffodus, oherwydd nifer y cwsmeriaid sy'n gwneud cais bob wythnos, ni fyddwn yn gallu cysylltu â phawb. Felly, ni fyddwn yn cysylltu â chi os na fuoch yn llwyddiannus. Os na fyddwch yn clywed dim o fewn deg diwrnod i'r dyddiad cau, gallwch gymryd yn ganiataol na fu eich cais yn llwyddiannus.
Beth sy'n digwydd os byddaf yn cael cynnig eiddo ac yn penderfynu nad ydw i ddim ei eisiau?
Os byddwch yn newid eich meddwl, unwaith y byddwch wedi derbyn cynnig ysgrifenedig neu ar ôl edrych ar yr eiddo, ac yn penderfynu nad yw'n diwallu eich anghenion, peidiwch â phryderu. Ni fyddwch yn cael eich cosbi am wrthod cynnig, oni bai eich bod yn ddeiliad statws blaenoriaeth.
Rwy'n dal i wneud cais am dai ond byth yn llwyddiannus, oes yna unrhyw werth mewn dal i geisio?
Yn anffodus, nifer cyfyngedig iawn o eiddo sydd gennym ond, os na fyddwch yn gwneud cais am eiddo sydd ar gael, fyddwch chi ddim yn cael cynnig eiddo.
Os byddaf yn cael cynnig cartref pa mor gyflym allaf i symud iddo?
Gyda rhai eiddo ni allwn ddweud pryd y gall tenantiaethau ddechrau, am na wyddom faint o waith sydd ei angen nes bydd y tenant blaenorol yn gadael. Mae'r Cyngor yn ceisio gweld bod ei holl gartrefi'n cyrraedd safonau newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Er mwyn lleihau amhariad, bydd y Cyngor yn gwneud cymaint o waith ag y bo modd cyn i denant newydd symudiad i mewn.
Cyn gynted ag y bydd yr eiddo'n barod a'r allweddi ar gael, byddwn yn eich hysbysu. Yna byddwch yn gallu gweld yr eiddo, penderfynu a ydych ei eisiau ac, os felly, llofnodi'r cytundeb tenantiaeth a symud i mewn.
Os byddaf yn cael cynnig cartref trwy CartrefiDewisedig@Sir Benfro, fydd hynny'n effeithio ar fy hawliau fel tenant?
Dim ond ffordd newydd o neilltuo tai yw CartrefiDewisedig@Sir Benfro. Bydd eich hawliau fel tenant yn aros yn ddigyfnewid.