Bydd polisi dyrannu Cartrefi Dewisedig yn newid, a bydd polisi newydd yn dod i rym ar 28 Hydref 2026.
Mae'r polisi diwygiedig wedi'i ddatblygu i ddarparu dull teg a chyson parhaus o ddyrannu tai cymdeithasol, gan sicrhau bod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i'r rhai sydd â'r angen mwyaf wrth wneud y defnydd gorau o stoc tai gyfyngedig.
Yn unol â'r galw cynyddol am dai cymdeithasol yn Sir Benfro, mae'r polisi wedi'i ddiweddaru i sicrhau bod ymgeiswyr ar draws pob lefel o angen yn cael eu hadnabod yn gywir a'u blaenoriaethu'n briodol.
Mae'r polisi newydd yn cyflwyno nifer o newidiadau pwysig. Bydd pob ymgeisydd yn destun asesiad o gymhwysedd i benderfynu a ydynt yn gymwys i ymuno â'r gofrestr tai cymdeithasol, neu a yw opsiynau eraill yn fwy priodol ar gyfer eu hamgylchiadau. Bydd cymhwysedd yn seiliedig ar feini prawf sy'n dangos cysylltiad lleol â Sir Benfro am y cyfnod gofynnol o amser.
Yn ogystal, bydd y system fandio bresennol yn newid. Bydd y bandiau Aur, Arian, ac Efydd presennol yn cael eu disodli gan Fandiau A, B, C, a D, a bydd meini prawf diwygiedig ar gyfer sut y dyfernir blaenoriaeth.
Bydd y polisi hefyd yn caniatáu i ymgeiswyr gwneud cais ar gyfer eiddo ag un ystafell wely yn fwy na'u hangen asesedig, yn amodol ar asesiad ariannol. Er enghraifft, gellir ystyried ymgeisydd sy'n gymwys ar gyfer eiddo un ystafell wely ar gyfer eiddo dwy ystafell wely os yw'n bodloni'r meini prawf fforddiadwyedd.
Ni fydd angen i ymgeiswyr gysylltu â ni ynglŷn â'r polisi newydd. Ni fyddwn yn gallu ateb unrhyw ymholiadau ynghylch bandio unigol nes bod y polisi dyrannu newydd wedi'i rhoi ar waith.
Yn ystod mis Gorffennaf 2026, bydd ymgeiswyr sydd â chyfeiriad e-bost wedi'i gofrestru ar ein system yn cael dolen i lenwi ffurflen cyn-ymgeisio. Bydd y ffurflen hon yn helpu i benderfynu a ydych chi'n parhau i fod yn gymwys i aros ar y gofrestr Cartrefi Dewisedig. Os ydych chi'n gymwys, yna cewch eich gwahodd i lenwi ffurflen gais lawn newydd.
Noder mai dim ond i gwsmeriaid sydd ar y gofrestr tai ar hyn o bryd y mae'r ffurflen cyn-ymgeisio ar gael. Os yw hyn yn berthnasol i chi, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol ac yn eich gwahodd i'w gwblhau.
Gofynnwn yn garedig, os nad ydych wedi cofrestru ar hyn o bryd, i chi beidio â cheisio creu cyfrif i gael mynediad at y ffurflen cyn-ymgeisio ar hyn o bryd. Mae'r offeryn yn rhan o system nad yw'n cael ei defnyddio'n llawn eto a gallai ei chwblhau heb wahoddiad greu cais na ellir ei symud ymlaen.
Er mwyn osgoi unrhyw ddryswch neu oedi, arhoswch nes eich bod wedi cael gwahoddiad cyn cwblhau'r ffurflen cyn-ymgeisio.
Os na allwch lenwi ffurflenni ar-lein, cysylltwch â'r Tîm Cymorth Tai ar 01437 764551 am gymorth. Er mwyn sicrhau eich bod yn cael gohebiaeth, gwnewch yn siŵr bod eich cyfeiriad e-bost yn gyfredol drwy gysylltu â housing@pembrokeshire.gov.uk
Os canfyddir, ar ôl cwblhau'r ffurflen cyn-ymgeisio, nad ydych yn gymwys, bydd eich cais yn cael ei gau unwaith y bydd y polisi newydd yn cael ei roi ar waith.
Noder na fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir ar ôl 1 Awst 2026 yn cael eu prosesu o dan y polisi presennol. Yn hytrach, byddant yn cael eu hadolygu a'u hasesu unwaith y bydd y polisi newydd ar waith.
Bydd oedi dros dro hefyd o ran hysbysebu eiddo tai cymdeithasol drwy hysbyseb Cartrefi Dewisedig o 15 Medi 2026 er mwyn caniatáu amser i bob cais gael ei ailasesu yn unol â'r polisi newydd. Cyhoeddir hysbyseb gyntaf Cartrefi Dewisedig o dan y polisi wedi'i ddiweddaru ar 28 Hydref 2026.
Byddwch yn ymwybodol y bydd dyraniadau i ymgeiswyr sydd â dyletswydd digartrefedd statudol yn parhau yn ystod y saib hwn.