Cyfnewid Cydfuddiannol

Cyfnewid Cydfuddiannol - Beth sydd angen i chi wybod

 

Beth yw cydgyfnewid?

Cyfnewid tenantiaeth, neu gydgyfnewid, yw pan fydd dau neu fwy o denantiaid cyngor neu gymdeithas tai yn cyfnewid cartrefi yn gyfreithlon.

I wneud hyn, rhaid i chi wneud y canlynol:

  • Dod o hyd i rywun i gyfnewid ag ef
  • Sicrhau caniatâd yn ysgrifenedig wrth y ddau
  • Cwblhau y gwaith papur cyfreithiol

Gall cyfnewid heb ganiatâd neu ddogfennaeth briodol arwain at droi allan.

 

Sut mae dod o hyd i eiddo i gyfnewid iddo?

Gallwch archwilio cyfnewidiadau cartref trwy gronfeydd data cenedlaethol fel:

  1. Homeswapper (homeswapper.co.uk)
  2. House Exchange (houseexchange.org.uk).

 

Mae'r safleoedd hyn yn gofyn am eich eiddo presennol a'ch dewisiadau o ran tai er mwyn cynorthwyo paru addas.

I gael rhagor o fanylion am Homeswapper, gofynnwch i'ch swyddog tai am daflen.

Yn ogystal, gallwch ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, megis grwpiau Facebook Sir Benfro, Cymru, neu'r DU gyfan, i ddod o hyd i gyfnewidiadau. Gallwch hefyd ymholi yn eich cymuned leol.

 

Sut mae gwneud cais am gydgyfnewid?

Unwaith y byddwch wedi dod o hyd gartref i gydgyfnewid iddo, rhaid i'r ddau barti ofyn am ganiatâd ysgrifenedig gan eu landlordiaid priodol. Dylai eich landlord anfon y ffurflenni angenrheidiol atoch, a bydd yn ymateb i'ch cais yn ysgrifenedig.

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd swyddog tai yn cynnal ymweliad ar y cyd â'ch eiddo gydag aelod o'r tîm Cynnal a Chadw Adeiladau, i sicrhau eu bod nhw'n hapus â chyflwr yr eiddo ac i gael sgwrs wyneb yn wyneb â chi i ddatrys unrhyw faterion. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, yna bydd angen i chi lenwi'r gwaith papur cyfreithiol, i gyfnewid tenantiaethau yn swyddogol.

 

Cwestiynau Cyffredin

 

A allaf gyfnewid i sir wahanol / y tu allan i Gymru?

Gallwch - gallwch gyfnewid cartrefi yn lleol neu i ran arall o'r wlad.

 

A all fy landlord wrthod fy nghais i gyfnewid?

Gall - ond dim ond os oes rheswm dilys. Gall hyn gynnwys:

  • Ôl-ddyledion rhent neu dorri amodau tenantiaeth gan y naill denant neu'r llall.
  • Ystyrir bod yr eiddo'n rhy fawr neu'n rhy fach i'r tenantiaid newydd.
  • Gellir cyfnewid eiddo sydd wedi'i addasu â rhywun sydd angen yr addasiadau hynny yn unig.
  • Gallai'r cyfnewid arwain at orlenwi neu danfeddiannu.
  • Mae materion cyfreithiol gan un o'r tenantiaethau (e.e., yn aros am gael ei droi allan).

 

Beth sy'n digwydd os ydw i am dynnu'n ôl o'r cyfnewid?

Rhaid i'r ddau denant gytuno i'r cyfnewid cyn ei gwblhau. Os bydd y naill barti neu'r llall yn newid eu meddwl cyn i'r gwaith papur gael ei gwblhau, ni fydd y cyfnewid yn mynd yn ei flaen. Unwaith y bydd contractau meddiannaeth / cytundebau tenantiaeth newydd wedi'u llofnodi, gall fod yn anodd i dynnu'n ôl.

 

Pa mor hir mae'r broses cydgyfnewid yn ei chymryd?

Mae'r broses yn amrywio yn dibynnu ar y landlordiaid dan sylw. Gall gymryd ychydig wythnosau neu sawl mis i gwblhau'r holl archwiliadau, gwaith papur a chymeradwyaeth angenrheidiol.

 

Beth ddylwn i ei wneud os gwrthodir fy nghydgyfnewid?

  • Gofynnwch i'ch landlord am y rhesymau penodol y tu ôl i'r gwrthodiad.
  • Ewch i'r afael ag unrhyw faterion sy'n weddill (e.e. ôl-ddyledion rhent neu atgyweiriadau).
  • Archwiliwch opsiynau tai eraill, megis gwneud cais am drosglwyddiad.


Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys ar gyfer cyfnewid neu'n ansicr ynghylch pa gamau i'w cymryd cyn gwneud cais am gyfnewid, cysylltwch â'ch swyddog tai i drafod.

 

ID: 35, Adolygwyd 26/3/2025

E-bost wythnosol ynghylch eiddo i’w rhentu

© 2018 Cyngor Sir Penfro All Rights Reserved