Defnyddiwch y canllaw hwn i roi'r wybodaeth briodol i ni er mwyn gwirio a chadarnhau eich cysylltiad lleol â Sir Benfro.
Er mwyn gwirio eich cysylltiad lleol â Sir Benfro, rhaid i'r dogfennau sy'n cael eu darparu ddangos y canlynol yn glir:
- Enw'r prif ymgeisydd
- Y cyfeiriad y dibynnir arno i sefydlu eich bod yn byw yno
- Dyddiad cyhoeddi'r ddogfen
Er mwyn dangos eich bod wedi byw yn y cyfeiriad am y cyfnod gofynnol, rhaid i chi ddarparu o leiaf ddwy ddogfen a gyhoeddwyd bum mlynedd neu fwy ar wahân. Rhaid i'r dogfennau gadarnhau eich bod yn byw mewn cyfeiriad yn Sir Benfro drwy gydol y cyfnod perthnasol.
Er enghraifft:
- Dogfen A sy'n dangos eich bod yn byw mewn cyfeiriad yn Sir Benfro yn 2018
- Dogfen B sy'n dangos eich bod yn byw mewn cyfeiriad yn Sir Benfro yn 2023 neu'n hwyrach
Tystiolaeth a Dderbynnir
Mae'r dogfennau canlynol fel arfer yn dderbyniol, ar yr amod eu bod yn dangos eich enw, cyfeiriad a dyddiad:
- Biliau'r Dreth Gyngor o wahanol flynyddoedd
- Cytundebau tenantiaeth
- Datganiadau morgais
- Biliau cyfleustodau (nwy, trydan, dŵr, band eang, llinell ffôn)
- Bil Ffôn Symudol
- Llythyrau cadarnhau'r Gofrestr Etholiadol
- Gohebiaeth CThEF
- Gohebiaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Llythyrau dyfarniad budd-daliadau
- Cyfriflenni banc neu gymdeithas adeiladu dyddiedig cyn Hydref 2021
- Gohebiaeth swyddogol gan adran y llywodraeth
- Gohebiaeth y GIG
- Gohebiaeth ysgol neu goleg
- Dogfennau cofrestru cerbyd (V5C)
- Dogfennau Yswiriant Cartref neu Gerbyd
- Slipiau cyflog neu P45/P60 yn dangos cyfeiriad
- Trwydded Yrru
Dogfennau Na Allwn eu Derbyn
Mae enghreifftiau o dystiolaeth na ellir ei derbyn yn cynnwys:
- Dogfennau nad ydynt yn dangos eich enw
- Dogfennau nad ydynt yn dangos eich cyfeiriad
- Dogfennau heb ddyddiad
- Sgrînluniau nad ydynt yn nodi ffynhonnell y wybodaeth yn glir
- Gohebiaeth mewn llawysgrifen
- Dogfennau sydd wedi'u newid neu sy'n anghyflawn
- Llythyrau personol gan aelodau o'r teulu neu ffrindiau
Os ydych chi'n credu eich bod yn gymwys o dan un o'r categorïau eithrio o fewn Polisi Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ategol er mwyn i ni allu asesu eich cymhwysedd.
Eithriad Cymorth Hanfodol
Os oes angen i chi symud i Sir Benfro i ddarparu neu dderbyn cymorth hanfodol gan aelod o'r teulu, darparwch:
- Esboniad ysgrifenedig o'r cymorth sy'n cael ei ddarparu
- Tystiolaeth bod y cymorth yn gyfystyr ag o leiaf 10 awr yr wythnos
- Tystiolaeth o'r berthynas deuluol
- Tystiolaeth bod yr aelod o'r teulu wedi byw yn barhaus yn Sir Benfro am o leiaf 10 mlynedd (defnyddiwch y dogfennau a restrir isod fel tystiolaeth)
- Gwybodaeth ategol gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, gweithiwr cymdeithasol neu asiantaeth berthnasol arall lle bo hynny ar gael.
Mae aelodau'r teulu ar gyfer yr eithriad hwn wedi'u cyfyngu i rieni, neiniau a theidiau, brodyr a chwiorydd, neu blant sy'n oedolion.
Eithriad y Lluoedd Arfog
Os ydych chi'n aelod sy'n gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Prydain neu'n aelod cymwys o'r teulu, dylech ddarparu:
- Tystiolaeth o'ch gwasanaeth presennol a/neu'r dyddiad rhyddhau
- Tystiolaeth o leoliad postio lle bo'n berthnasol.
- Tystiolaeth eich bod wedi byw yn Sir Benfro am gyfnod parhaus o bum mlynedd cyn gwasanaethu
Eithriad Cam-drin Domestig
Os ydych chi'n ceisio symud i Sir Benfro oherwydd cam-drin domestig, dylech ddarparu:
- Tystiolaeth ategol gan asiantaeth gymorth, lloches, gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu neu weithwyr proffesiynol perthnasol eraill
- Tystiolaeth o'ch rhwydwaith cymorth yn Sir Benfro, os yw'n berthnasol
- Tystiolaeth bod y rhwydwaith cymorth wedi byw yn barhaus yn Sir Benfro ers o leiaf 10 mlynedd lle mae dibyniaeth ar hyn (defnyddiwch y dogfennau a restrir isod fel tystiolaeth)
Rhyddhau o'r Carchar ac Eithriad Adsefydlu
Os ydych chi'n cael eich rhyddhau o'r carchar ac angen llety yn Sir Benfro fel amod ar gyfer eich adsefydlu, dylech ddarparu:
- Cadarnhad gan y Gwasanaeth Prawf neu asiantaeth berthnasol arall
- Manylion eich cynllun adsefydlu neu drefniadau ailsefydlu
Eithriad Gweithiwr Allweddol
Os oes angen i chi symud i Sir Benfro i ymgymryd â swydd gyflogaeth allweddol, dylech ddarparu:
- Tystiolaeth gan y cyflogwr sy'n cadarnhau'r rôl, dyddiad dechrau, a pham mae'r swydd yn cael ei hystyried yn hanfodol neu'n anodd recriwtio iddi yn lleol.
Sylwer: Mae gweithiwr allweddol yn unigolyn sy'n cael ei gyflogi, neu sydd wedi sicrhau cynnig o waith, mewn rôl sy'n cael ei hystyried yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol neu weithrediad yr economi leol
Pobl ifanc mewn gofal neu sy'n gadael gofal o dan 25 oed
Os ydych chi'n 25 oed neu'n iau ac mewn gofal neu wedi bod yng ngofal Cyngor Sir Penfro yn flaenorol, dylech ddarparu:
- Tystiolaeth o'ch statws gofal gan yr Adran Gwasanaethau Plant neu awdurdod perthnasol arall.
Gellir uwchlwytho dogfennau trwy eich cyfrif Cartrefi Dewisedig neu eu hanfon at: choicehomeschange@pembrokeshire.gov.uk
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i gael neu gyflwyno tystiolaeth, cysylltwch â'r Tîm Tai ar 01437 776603
Bydd yr holl wybodaeth a dogfennaeth ategol yn cael eu gwirio a'u hasesu yn unol â pholisi diweddaredig Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro.