Mae'r Gofrestr Tai ar gau ar hyn o bryd wrth i ni weithredu newidiadau i gyd-fynd â'r Polisi Dyrannu Tai newydd.
Hyd nes i'r gofrestr ailagor, ni allwch wneud y canlynol:
- Cyflwyno cais newydd am dai
- Derbyn hysbysebion eiddo wythnosol
- Rhoi cynigion ar eiddo.
Bydd y Gofrestr Tai yn ailagor ar 28 Hydref 2026.
Ceisiadau Presennol
Bydd ymgeiswyr presennol sydd wedi ailymgeisio o dan y Polisi Dyrannu Tai newydd, sy'n gymwys, ac sydd wedi cwblhau cais ar-lein yn derbyn hysbysiad o'u band blaenoriaeth tai rhwng 16 Medi a 28 Hydref 2026.
Peidiwch â chysylltu â'r Tîm Tai ynglŷn â'ch band na chynnydd eich cais yn ystod y cyfnod hwn, gan na ellir rhoi diweddariadau cyn cyhoeddi hysbysiadau ffurfiol.
Ble alla i gael cymorth i gwblhau'r cais?
Os oes angen cymorth arnoch gyda'ch cais, neu i ddarparu tystiolaeth sydd ei angen, cysylltwch â'r Tîm Tai:
- Ffôn: 01437 776603
- E-bost: choicehomeschange@pembrokeshire.gov.uk
Diolch am eich amynedd a'ch cydweithrediad wrth i ni symud ymlaen trwy weithredu'r Polisi Dyrannu Tai newydd Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro.
